Tuesday 24 January 2012

Playwright Branwen Davies:
I brofi nad yda ni'n cael ein llethu gan iaith o fewn y cwmni ac bod ganddo ni'r rhwydd hynt i ysgrifennu yn y Gymraeg dyma flog cyntaf Cymraeg y cwmni yr holl ffordd o Aberystwyth!





Rydw i newydd recordio pwt o gyfweliad radio ar gyfer rhaglen BBC Cymru Stiwdio yn son dipyn am gefndir y cwmni a pha mor bwysig ydy hi i greu gwaith a chynhyrchu gwaith.Mae dramau angen cael eu perfformio a'u rhannu nid sefyll yn segur yn hel llwch. Mi fydd yn cael ei ddarlledu nos Iau, Ionawr 26ain rhwng 6.03pm a 6.30pm a bydd modd ailwrando ar y BBC i-player.

Ar ol clywed y stategaeth mai ond 17% o ddramau gan ferched oedd wedi cael eu cynhyrchu ym Mhrydain yn 2010 mi wnes i ddechrau meddwl am y sefyllfa yn y Gymraeg yng Nghymru. Pan mae rhywun yn mynd i enwi dramodwyr mae enwau megis Meic Povey, Aled Jones Williams a Dafydd James yn eithaf amlwg. Rydw i'n hoff o'u gwaith ond hefyd yn hoff o amrywiaeth. Pwy ydy'r merched sydd yn ysgrifennu? Mae nhw'n bodoli ond efallai ddim mor amlwg. Pam? Mae angen clywed a gweld mwy o'u gwaith ac yn gyson.

Rydw i'n edrych ymlaen i weld drama ddiweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru ar y cyd a Sherman Cymru a Galeri sef 'Sgint' gan Bethan Marlow. Mae Bethan yn ddramodwraig sydd yn ysgrifennu yn ffraeth a gafaelgar gyda chalon, emosiwn a hiwmor. Mae hi'n gyfnod cyffroes yn fy marn i ym myd drama yng Nghymru hefo Cyfarwyddwr Artistig newydd yn Theatr Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Cyswllt newydd yn Sherman Cymru. Mae'n gyfnod newydd ac yn gyfle i greu gwaith amrywiol a heriol a'i rannu a chynulleidfa amgenach na chynulleidfaeodd Cymru yn unig. Mae Agent 160 yn galluogi dramodwyr Cymru i rannu eu gwaith hefo cynulleidfaeodd yn Lloegr ac yr Alban ac mae hyn yn gam positif yn fy marn i er mwyn creu argraff a chodi proffil theatr a dramodwyr Cymru.

Rydw i'n mwynhau ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn falch o'r rhyddid o symud o un iaith i'r llall. Roedd gen i ddiddordeb arbrofi gyda ysgrifennu drama ddwy ieuthog gan fy mod i'n ymwybodol fod fy steil o ysgrifennu yn amrywio cymaint yn dibynnu ar pa iaith rydw i'n ei ddefnyddio. Mae fy nramau Saesneg yn tueddu i fod yn afreal, symbolaidd a thywyll a fy nramau Cymraeg llawer mwy blodeuog eu hiaith a'u harddull. Mae fy nrama 'Genki' a fydd yn cael ei berfformio yn 'Agent 160 presents Agent 160' yn ddrama dair ieuthog! Rydw i wedi cyfuno Cymraeg, Saesneg a tipyn o Siapanaeg ynddi. Drama ydy hi wedi ei hysbrydoli o ddychwelyd i Gymru ar ol cyfnod yn byw yn Siapan a ceisio dod o hyd i fy nhraed unwaith yn rhagor ar ol antur a byw bywyd mewn rhyw fath o freuddwyd neu ffantasi lle roedd rhywbeth yn rhyfeddu a synnu rhywun yn ddyddiol.

No comments:

Post a Comment